Ysgol ECO

Mae gweithgareddau amgylcheddol yn chwarae rhan flaenllaw ym mywyd bob dydd Ysgol Nantgaredig. Ein cyngor eco sy’n lliwio’r gweithgareddau yn flynyddol ond mae ymdeimlad o barch at yr amgylchedd yn integreiddio’n naturiol a rheolaidd i ethos yr ysgol. O ganlyniad mae addysg awyr agored hefyd yn dueddiad rheolaidd gyda ni. Manteisiwn yn llawn ar leoliad bendigedig yr ysgol yn Nyffryn Tywi i gynnal gweithgareddau o’r fath ac i feithrin yr ymdeimlad o barch at gymdeithas ymysg ein disgyblion.

Ymfalchiwn yn ein statws Eco Platinwm (sydd wedi cael ei ddiweddaru sawl tro). Mae hwn yn coroni ymdrech ac ymrwymiad yr ysgol gyfan at y prosiect.