Gwybodaeth

Nod Cyffredinol yr Ysgol

Gweledigaeth yr ysgol er mwyn gwireddu’r 4 diben ar gyfer ein dysgwyr

–          Sicrhau bod pob disgybl yn joio gyda’i  ffrindiau.​

–          Meithrin blachder yn yr ysgol, yr ardal leol (Cynefin)a Chymru gan gynnwys yr 

iaith Gymraeg.​

–          Rhoi cyfleoedd cyson i’r dysgwyr brofi llwyddiant a hyrwyddo meddylfryd twf pob 

aelod o gymuned yr ysgol.​

–          Sicrhau bod y dysgwyr yn profi hunanwerth a bod llais y disgybl yn cael sylw teilwng.​

–          Darparu amgylchedd hapus, cadarnhaol a diogel i’r holl ddysgwyr.​

Dathlu’r ffaith bod pob plentyn yn wahanol ac yn bwysig.​

–          Datblygu medrau sylfaenol pob disgbyl gan gynnwys llythrennedd, rhifedd, digidol 

   a meddwl.​

–          Adeiladu hunan werth a hunan gred pob dysgwr.​

–          Darparu profiadau cyffrous y tu allan i’r dosbarth.​

–          Darparu cyfleoedd i ddysgwyr hŷn i gymryd rhan mewn timau a grwpiau perfformio amrywiol. ​

–          Annog pawb i fod yn ddysgwyr annibynnol. ​

–          Datblygu medrau dwyieithog pob disgybl.

–          Datblygu unigolion iach a hyderus. ​

Ein nôd yw cynnig i bob plentyn addysg eang, gytbwys, perthnasol a gwahaniaethol gyda ffocws ar sgiliau, a rhoi cyfle iddo ddatblygu fel ei fod yn gallu byw a chymryd ei le yn llawn ac yn effeithiol yn y gymdeithas y mae’n perthyn iddi. 

Bydd pob plentyn yn derbyn cyfleoedd a phrofiadau a fydd yn datblygu ymwybyddiaeth o natur unigryw Cymru, ei ieithoedd a’i diwylliant. Cymareg yw iaith bywyd yr ysgol ac nid y gwersi yn unig. 

Rhoi cyfle i bob plentyn ddatblygu i’w lawn potensial drwy gael amrywiaeth o brofiadau diddorol a pherthnasol. 

Rhoi cyfle i’r plant ddatblygu meddyliau bywiog ymholgar, gan gynnwys y gallu i ofyn. 

I ddatblygu sgiliau corfforol ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau a luniwyd i wella’i iechyd a ffitrwydd gan weithio fel rhan o dîm yn effeithiol. 

I feithrin ac ennill dealltwriaeth a gwybodaeth ynghyd â sgiliau gydol oes i baratoi ein disgyblion gorau y gallwn ar gyfer y byd gwaith.

I ddatblygu defnydd effeithiol o iaith a rhif, gan sicrhau bod y plant yn rhugl ddwyieithog hyd eithaf eu gallu erbyn yr adeg maent yn trosglwyddo i Addysg Uwchradd. 

I ddatblygu gwerthoedd personol a moesol da, ynghyd â pharch at werthoedd crefyddol Cristnogol a goddefgarwch tuag at grefyddau eraill a’u ffordd o fyw. 

I geisio deall y byd maent yn byw ynddo, a’r stad o ddibynnu’r naill ar y llall sy’n wynebu unigolion, grwpiau a chenedl. 

I ddatblygu disgyblion i werthfawrogi llwyddiannau a dyheadau unigolion eraill. 

I gadarnhau fod y berthynas rhwng yr ysgol a’r cartref yn un sy’n sicrhau fod rhieni a staff yn medru gweithio gyda’i gilydd er lles y disgybl. 

Bydd pob plentyn yn cael profiad preswyl.

Bydd pob plentyn yn cymryd rhan mewn gweithgaredd amgylcheddol.

Bydd pob plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad yn rheolaidd. 

Bydd pob plentyn yn cael cyfle i gynrychioli ei ysgol, clwstwr, ardal ar lefel sy’n briodol i’w sgiliau mewn chwaraeon tîm a gweithgareddau eraill.

Bydd pob plentyn yn mynychu gweithdai neu berfformiadau celfyddydol proffesiynol. 

Bydd pob plentyn yn cael cyfle i ddewis p’un ai ydynt yn dymuno chwarae offeryn cerdd, heblaw offer taro yn y dosbarth, ai peidio. 

Bydd pob plentyn yn CA2 yn ysgrifennu storïau, cerddi, eu darlunio a’u cyflwyno i ddisgyblion ieuengach a chynulleidfaoedd eraill. 

Bydd pob plentyn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol. 

Anogir pob rhiant i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd eu plentyn mewn partneriaeth gyda’r ysgol.

Bydd pob plentyn yn cael cyfle i gyfrannu i gyngor yr ysgol sydd wedi ei ethol yn ddemocrataidd.