Ysgol Iach

Ysgol Iach / Healthy School

Rydym yn browd iawn o’n statws Ysgol Iach yn Ysgol Nantgaredig. Rydym yn un o’r ysgolion prin ledled Cymru sydd wedi eu gwobrwyo gyda’r Wobr Ansawdd Genedlaethol ers 8 mlynedd bellach.

Ystyriwn bwysigrwydd elfennau’r cynllun at ddatblygu dinasyddion iach, heini a mentrus. Iechyd a lles ein disgyblion yw ein blaenoriaeth a gwn mai plant iach ac hapus sydd yn dysgu orau! Yn ein hysgol mae gwrando ar ein plant a thrafod eu teimladau gyda nhw yn gryfder!

Ymfalchiwn yn ein ethos ysgol gyfan at y prosiect sy’n cael ei liwio gan gyngor Eco/Iach gweithgar. Gyda’n gilydd gallwn sicrhau bod ein plant a’n staff yn meithrin agwedd bositif tuag at fywyd.

Edrychwn am syniadau newydd yn barhaus i sicrhau ein bod yn cadw ar frig y cynllun. Gwerthfawrogwn fewnbwn plant, rhieni a’r gymuned ehangach felly os oes gennych unrhyw syniadau cysylltwch gyda ni!

Y 7 testun iechyd gwahanol y mae angen i ysgolion fynd i’r afael:

  • Bwyd a ffitrwydd
  • Iechyd meddwl ac emosiynol a lles
  • Datblygiad personol pherthnasoedd
  • Defnyddio a chamddefnyddio sylweddau
  • Yr amgylchedd
  • Diogelwch
  • Hylendid