Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Nantgaredig yng nghanol ac yng nghalon Dyffryn Tywi.
Ysgol ydyw sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg o safon uchel. Mae’r ysgol yn gwasanaethu plant Sir Gaerfyrddin mewn dwy uned iaith a lleferydd.
Mae’n ysgol gynhwysol sy’n rhoi cyfle cyfartal i bob plentyn gymryd rhan yng ngweithgarwch cwricwlaidd ac allgyrsiol amrywiol. Ein nod yw datblygu y plentyn cyfan o ran eu sgiliau sylfaenol angenrheidiol a chynnig phrofiadau cyffrous amrywiol.
Ymfalchïwn yn y cyfleoedd y caiff ein plant o ran chwaraeon, y celfyddydau gan gynnwys cystadlu yn eisteddfod yr Urdd, gwaith amgylcheddol a’r defnydd arloesol o’r dechnoleg ddiweddaraf.
I gloi, mae Ysgol Nantgaredig yn gymuned hapus a gofalgar.