Gweithgareddau Allgyrsiol
Rhoddir llawer o bwyslais ar weithgareddau allgyrsiol gan holl staff yr ysgol. Anogir y plant o flwyddyn 1 i fyny i ymaelodi â mudiad Urdd Gobaith Cymru. Mae gweithgareddau’r Urdd yn cynnwys chwaraeon o bob math, gwaith celf a chrefft, cwisiau ynghyd â gwaith Eisteddfod sef canu, llefaru a dawnsio.
Rydym fel ysgol yn cystadlu’n gyson mewn cystadlaethau chwaraeon o bob math, ac eto anogir y plant i fwynhau cymryd rhan yn y gweithgareddau. Cynhelir cyngherddau yn yr ysgol ac o fewn y gymuned. Gelwir ar y plant yn gyson i berfformio ac i helpu elusennau ac achosion da’r ardal.
Ym mlwyddyn 5 a/neu 6 caiff y plant gyfle i fynd o ddydd Llun tan ddydd Gwener ar gwrs preswyl i Ganolfan y Fonesig Stepney ym Mhentywyn. Yno mi fyddant yn ymgymryd â gweithgareddau awyr agored ynghyd ag astudiaethau natur.
Dyma restr o’r gweithgareddau amrywiol fu’r plant ynghlwm â hwy yn ystod y flwyddyn ddiwethaf :
Cwis yr Urdd Clybiau/Ffair llyfrau Canu Carolau/ Cyngherddau Eisteddfod yr Urdd Dawnsio Gwerin Drama Mabolgampau/ Gymnasteg Pysgota Taith i’r Wyddfa Clwb Gwenyn Bee Keeping Club Clogwyna Môr Caiaco | Clwb Garddio Her Formiwla 1 Gwersyll Pentywyn Gwersyll Llangrannog Cerddorfeydd Cystadlaethau Ysgrifennu RygbiPêl Droed Pêl Rhwyd Côr yr Ardal DringoAbseilio Cystadleuaeth Coginio ‘Active Kids’ |
Clwb Caredig
Beth yw Clwb Caredig?
Clwb Gofal ar ôl oriau ysgol yw Clwb Caredig sy’n cynnig lloches i’ch plant rhwng 3.30 a 6 o’r gloch, pum niwrnod yr wythnos.
Oriau’r Clwb
Ar ôl ysgol
3.30 – 6.00
Gwyliau
8.30 – 6.00
Ble mae’r clwb yn cwrdd?
Mae’r Clwb wedi ei leoli yn ysgol Nantgaredig ac mae’r mwyafrif o’r staff yn aelodau o staff yr ysgol. Bydd y plant yn cymryd rhan mewn amrywiath o weithgareddau mewn amgylchedd cyfarwydd gyda staff y meant yn eu hadnabod. Mae’r adeilad yn addas ar gyfer plant â nam corfforol.
Beth mae’r plant yn ei wneud?
Cofrestru
Darperir te (bwydlen bwyta’n iach)
Gweithgareddau mewnol / allanol
Amserlen Wyliau
Cofrestru
Gweithgaareddau mewnol
10:00yb – darperir diod a ffrwyth/bisgedi
Gweithgareddau
12:00 – cinio (y plant i ddod â chinio gyda nhw)
Gweithgareddau’r prynhawn
3:30yp – Darperir te (bwydlen bwyta’n iach)
Gweithgareddau mewnol
Gweithgareddau awyr agored
Darperir amrywiaeth o weithgareddau a chwaraeon awyr agored – hoci, tennis, rygbi, pêl-droed, parasiwt, ffrâm Ddringo Cornel Caredig.
Gweithgareddau mewnol
Cyfnodau tawel, gemau bwrdd, celf a chrefft, cyfrifiadur, coginio, drama, ymweliadau.
Sut i ddefnyddio’r Clwb
Rhaid cofrestru eich plentyn/plant cyn y gallant ymuno â’r Clwb – hyd yn oed os na fyddwch yn ei ddefnyddio’n aml. Mae ffurflenni cofrestru ar gael oddi wrth yr Arweinydd.
Ar hyn o brd mae’r Clwb yn darparu ar gyfer 45 o blant ym mhob sesiwn. Mae’r llefydd ar gael i blant sydd wedi eu cofrestru ar gyfer dyddiau sefydlog (yn rhan amser neu’n llawn amser). Y cyntaf i’r felin gaiff falu!
Bydd llefydd gwag yn cael eu cynnig i blant sydd â’u rhieni yn gofyn am le gofal brys, gan gymryd eu bod wedi cofrestru yn y Clwb, drwy ffonio’r ysgol cyn 10:00 y bore i holi ynglŷn â lle gwag neu drwy drefnu o flaen llaw.
Os oes angen canslo lle yn ystod amser gwyliau, mae angen yw wneud cyn 10.00 y bore y diwrnod cynt neu fe gewch ddirwy. Rhaid hysbysu Arweinydd y Clwb os oes angen canslo yn ystod y dydd.
Rhaid i’r rhieni arwyddo cytundeb ar ôl darllen llawlyfr y Clwb.
Rhaid hysbysu’r Arweinydd os oes newid yn y trefniadau casglu arferol.
Rhaid arwyddo’r gofrestr ar ddiwedd sesiwn er mwyn cadarnhau fod y plentyn wedi gadael o ddan ofal rhiant neu warcheidwad.
Mae gwybodaeth bellach ar gael ar hysbysfwrdd y Clwb neu drwy gysylltu â’r Arweinydd, Mrs Heulwen Lloyd.
Clwb Brecwast
Clwb Brecwast
Mae Clwb brecwast ar agel i blant rhwng 8 a 8.40 y bore, yn neuadd yr ysgol. Darperir brecwast iach. Ni chodir tâl am y gwasanaeth yma.
Bwydlen Brecwast
Dewis o rawnfwyd plaen heb siwgr gyda llaeth ffres oer
Tost a ffrwyth ffres
A dewis o ddiod, gan gynnwys naill ai sudd ffrwythau neu llaeth ffres
Clwb Chwaraeon
Mae clwb chwaraeon ar ôl ysgol bob nos Iau rhwng 3.30 yh a 4.30 yh.
Mae cyfle i chwarae tennis, hoci, rygbi, pel rhwyd, criced, rownderi, traws gwlad neu athletau.
Clwb Coginio
Mae Clwb Coginio i flwyddyn 4 yn achlysurol yn ystod tymor y Gwanwyn a thymor yr Haf. Gweithir gyda grwpiau bach a rhown wybod o flaen llaw i’r plant pryd mae eu cyfle i gymryd rhan. Bwriad y clybiau yw i ddatblygu sgiliau coginio a bwyta’n iach mewn modd hwylus. Annogwn ddefnydd o gynyrch lleol a choginio cynaladwy. Compostiwn ein gwastraff bwyd.
Hyd yma yn ystod y tymor rydym wedi coginio.
Cawl ‘adfresych’ gyda bara cnau a ‘chroutons’ caws.
Peli twrci.
Cyri Cig Oen Cymreig gyda samosas o gig oen a chennin.
Cacennau bach daffodil.
Pasta Machlud Haul.
Sudd rhiwbob a mefus.
Myffins ffrwythau (gan ddefnyddio jam mwyar blwyddyn 5 a’r mwyar a gasglwyd yn lleol.)
Cacengaws sioceld gwyn a mefus..