Amser Cinio
Caiff y pryd bwyd ei baratoi yng nghegin yr ysgol. Caiff y plant a ddaw a brechdanau eu bwyta yn y neuadd o dan oruchwyliaeth. Gofynnir i chi beidio ag anfon potel wydr i ddal diod i’r ysgol os yn bosib.
Gellir talu am ginio’n wythnosol, yn fisol neu’n dymhorol. Gofynnwch i’r Clerc cinio am fanylion. Gellir cael ffurflenni cais am Brydiau Bwyd Rhad o’r ysgol.
Goruchwylir y plant gan y Pennaeth neu Uwch Reolwyr ynghyd â Goruchwylwyr Awr Ginio.